Llywodraethwyr
Hafan > Ysgol > Llywodraethwyr
Gair gan y cadeirydd
Fel Cadeirydd y Corff Llywodraethu, mae’n fraint cael eich croesawu i’n cymuned ysgol gynhwysol yma yn Ysgol Pentraeth. Mae'r plant yn reiddiol i bopeth a wnawn, a mae ein disgyblion yn ffynnu mewn amgylchedd anogol lle mae eu hunigoliaeth a’u potensial yn cael ei ddathlu. Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â rhieni, gofalwyr, a’r gymuned ehangach i sicrhau bod pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi, ei hysbrydoli a’i werthfawrogi. Gyda’n gilydd, ein nôd yw bod yn ysgol sydd nid yn unig yn fan dysgu ond yn ganolbwynt o gysylltiad a chyfle i bawb sy’n cymryd rhan. Diolch am fod yn rhan o'n taith.
Huw Parry
Cadeirydd y corff llywodraethu
Mae rôl corff llywodraethol ysgol gynradd yn Ynys Môn yn hanfodol i sicrhau bod y sefydliad yn cael ei redeg yn effeithiol ac yn cynnig addysg o'r safon uchaf i'r disgyblion. Mae'r corff llywodraethol yn gyfrifol am osod cyfeiriad strategol yr ysgol gyda'r pennaeth, gan gynnwys datblygu polisïau, eu monitro a'u gweithredu. Maent yn goruchwylio cyllideb yr ysgol, sicrhau bod adnoddau yn cael eu defnyddio'n effeithlon ac yn cefnogi'r pennaeth a'r staff wrth ddarparu cwricwlwm cyfoethog ac ysbrydoledig. Yn ogystal, mae'r llywodraethwyr yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod yr ysgol yn cydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol a rheolaethol gan gynnwys iechyd a diogelwch, lles disgyblion, a chyfle cyfartal. Drwy eu gwaith, maent yn cefnogi a hyrwyddo cyfranogiad a llais y gymuned leol yn natblygiad a llwyddiant yr ysgol.
Rhieni Llywodraethwyr:
Huw Parry (cadeirydd)
Ceri Roberts
Kieran Thomas
Llywodraethwyr Cymunedol Cyfetholedig:
Gwen Hartleb (îs gadeirydd)
Sarah Kersey
Sedd Wag
Llywodraethwyr AALL:
Cynghorydd Euryn Morris
Cynghorydd Ieuan Williams
Pennaeth:
Trystan Williams
Staff Dysgu:
Julie Williams
Staff Ategol:
Dawn Hughes
Clerc:
Heledd Ann Williams