Absenoldeb a Gwyliau
Hafan > Rhieni > Absenoldeb a Gwyliau
Rhoi wybod am absenoldeb
Ffoniwch yr ysgol ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb i ddweud wrthynt pam bod eich plentyn yn absennol, a pha bryd mae disgwyl iddynt ddychwelyd.
Mae yna ffurflen hefyd ar gael i rieni i egluro absenoldeb eu plentyn i'r ysgol - cysylltwch gyda'r ysgol os nad ydych yn siwr ble i dod o hyd iddo.
Os yw eich plentyn i ffwrdd am resymau eraill fel apwyntiad doctor neu ddeintydd, gadewch i’r ysgol wybod o flaen llaw a dangoswch gopi o neges destun neu gerdyn apwyntiad iddynt.
Gall rhoi rhif ffôn yr ysgol yn eich ffôn arbed amser i chi.
Sicrhewch eich bod gwybod trefn yr ysgol ar gyfer eich hysbysu o absenoldeb.
Archebu gwyliau yn ystod amser ysgol
Osgowch archebu gwyliau teulu yn ystod amser ysgol.
Os na ellir osgoi hyn, yna mae’n rhaid i chi wneud cais am y gwyliau a derbyn ateb cyn archebu’r gwyliau.
Mae yna ffurflen hefyd ar gael i rieni wneud cais am wyliau - cysylltwch gyda'r ysgol os nad ydych yn siwr ble i dod o hyd iddo.