Mynediad
Polisi Mynediad
Mae gan bob ysgol rif derbyn. Rhif derbyn yr ysgol hon yw 17. Nid oes trosglwyddiad awtomatig o’r Meithrin i’r Derbyn, a chan mai Awdurdod Addysg Môn yw’r Awdurdod Derbyn, bydd yr Awdurdod yn ystyried ceisiadau. Os digwydd bod mwy wedi dewis anfon eu plant i’r ysgol nag sydd o le ar eu cyfer, ystyrir ceisiadau yn unol â’r meini prawf canlynol a restrir yn nhrefn blaenoriaeth:
-
Nifer y plant y gellir eu derbyn i’r ysgol (h.y. rhif derbyn yr ysgol ar gyfer bob blwyddyn ysgol);
-
Yr ardal ddaearyddol a wasanaethir fel arfer gan yr ysgol (h.y. dalgylch diffiniedig);
-
A oes gan y darpar ddisgybl frawd neu chwaer yn yr ysgol.
Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Cyngor Ynys Môn, sef www.ynysmon.gov.uk.
Derbyn Plant
Derbynnir plant i’r Uned Feithrin yn rhan‐amser yn y mis Medi ar ôl eu pen‐blwydd yn dair oed. Yn ystod tymor yr Haf, gwahoddir rhieni disgyblion newydd i’r ysgol i siarad â’r Pennaeth a staff y dosbarth meithrin er mwyn rhannu gwybodaeth am y plant a fydd yn dechrau yn y mis Medi canlynol.
Mae Cylch Meithrin Pentraeth wedi ei leoli yn adeilad yr ysgol am 4 bore’r wythnos (Llun ‐ Iau). Rydym yn cyd‐weithio’n agos gyda’r Cylch Meithrin yn ystod y broses o drosglwyddo. Bydd staff y Cylch Meithrin yn symud gyda’r plant yn ystod y cyfnodau trosglwyddo. Teimlwn fod hyn yn lleihau eu gofid ac yn eu helpu i edrych ymlaen at ddechrau yn y dosbarth meithrin.
Cynnig Gofal Plant
Mae’r ysgol yn cynnig gofal plant ar gyfer plant 3-4 oed sydd â rhieni sydd yn gymwys i hawlio hyd at 20 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos. Os ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn bydd modd i’ch plentyn fod yn yr ysgol o:
-
8:50 - 12:50 - Cylch Meithrin Pentraeth (yn cael ei redeg gan Dawn Hughes)
-
12:50 - 3:20 - Dosbarth Meithrin yn yr ysgol.
Am fwy o wybodaeth ewch ar y wefan: Cynnig Gofal Plant Cymru.
Amser yn yr Ysgol
Estynnir gwahoddiad i rieni i gyfarfod â staff y dosbarth meithrin yn ystod tymor yr haf cyn bod eu plant yn cychwyn yn yr ysgol er mwyn i’r plant cael cyfle i ymgynefino â'r Uned Feithrin, lleoliad toiledau, maes chwarae a.y.y.b. ac i gyfarfod yr athrawon a'r pennaeth.