Clybiau
Clybiau'r Ysgol
Mae’r ysgol yn darparu Clwb Gwarchod Boreuol ar gyfer plant o 8yb tan 8.25yb am gost o £1.25 y dydd y plentyn.
Yn ogystal, mae’r ysgol yn cynnig Clwb Brecwast am ddim i holl ddisgyblion yr ysgol rhwng 8.25yb a 8.50yb. Mae'r brecwast iach a gynigir yn cydymffurfio â rheoliadau statudol Llywodraeth Cymru 'Bwyta’n Iach Mewn Ysgolion'.
Mae clwb ar ôl ysgol ar gyfer plant llawn amser (Derbyn i Blwyddyn 6).
Mae'n rhaid i rieni archebu lle yn y clwb ar ôl ysgol erbyn 8yh y diwrnod cynt.
Gall rieni archebu lle i'w plant yn y clwb drwy 'School Gateway'.
Amser: 3:25 - 4:30 Cost: £5
Amser: 3:25 - 5:20 Cost: £7
Cynhelir clybiau amrywiol yn ystod y flwyddyn rhwng 3:20y.p a 4:30y.p megis Clwb Cyfrifiaduron; Clwb Chwaraeon; Clwb Coginio; Clwb Celf; a’r Urdd.
Anfonir rhaglen digwyddiadau at rieni ar ddechrau pob tymor yn nodi’r gweithgareddau a’r dyddiadau perthnasol.