Diogelu
Hafan > Gofal a Lles > Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn hanfodol, yn ogystal â'r broses addysgu, gan fod eu lles yn sylfaen i'w llwyddiant academaidd a'u datblygiad personol. Trwy greu amgylchedd diogel a chefnogol, rydym yn sicrhau bod pob plentyn yn teimlo'n ddiogel ac yn werthfawr, sy'n eu galluogi i ganolbwyntio ar eu dysgu a chyflawni eu potensial llawn. Mae amddiffyn plant hefyd yn golygu adnabod a mynd i'r afael ag unrhyw arwyddion o gamdriniaeth neu esgeulustod, gan ddarparu'r cymorth angenrheidiol i'r rhai mewn angen. Felly, mae'r cyfrifoldeb am ddiogelu plant yn hanfodol i greu cymuned ysgol lle gall pob disgybl ffynnu ac ymdrechu i fod y gorau y gallant fod.
Gwybodaeth am Diogelu
Trystan Williams - Pennaeth
Julie Williams - Athrawes a Chyd-lynnydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY)
Mari Evans - Athrawes
Ydych chi'n cael eich cam-drin - gartref neu gan rywun arall? Ydy rhywun gartref yn cael ei drin yn wael gan rywun arall? Oes gennych chi ffrind sydd angen cymorth oherwydd ei fod yn cael ei gam-drin?
Gall cam-drin ddigwydd mewn sawl ffordd:
-
cam-drin corfforol: taro, ysgwyd, taflu, llosgi neu ddefnyddio meddyginiaeth i niweidio rhywun.
-
cam-drin emosiynol: gwneud i rywun deimlo'n ddiwerth, dweud wrthyn nhw nad oes neb yn eu caru; frightening them - bygwth niwed, bod yn gas; camfanteisio ar gyfer gwaith neu ryw.
-
cam-drin rhywiol: gorfodi rhywun i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, gorfodi rhywun i edrych ar a/neu greu cynnwys pornograffig. Annog rhywun i ymddwyn yn rhywiol amhriodol.
-
esgeulustod: peidio â darparu bwyd, llety neu ddillad addas; peidio ag atal niwed neu risg corfforol, peidio â sicrhau mynediad at ofal neu driniaeth feddygol; peidio â sicrhau bod y plentyn yn derbyn addysg gyson.
Beth ddyliwn i ei wneud?
-
Cysylltwch â Teulu Môn (Gwasanaethau Cymdeithasol) a dywedwch wrthynt beth sy'n digwydd.
Ffôn: 01248 725 888
Rhif y tu allan i oriau: 01248 353551 -
Mewn argyfwng – fel pan fydd rhywun yn cael ei daro neu ei gau allan o’u cartref – ffoniwch yr heddlu ar 999
-
Ffoniwch Childline ar 0800 1111 neu ewch i wefan ChildLine
-
Gallwch ofyn i oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo, fel athro neu weithiwr ieuenctid neu hyd yn oed ffrind, i wneud yr alwad ffôn ar eich rhan. Pan fydd pobl yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc mae'n rhaid iddynt ddilyn gweithdrefnau penodol, ond byddant yn esbonio i chi beth fyddant yn ei wneud a bydd yn eich cefnogi drwy'r broses.
-
Os ydych chi'n cael eich bwlio, siaradwch â staff yr ysgol - mae pawb yno i helpu. Os ydych chi eisiau mwy o gefnogaeth, gofynnwch am gael siarad â'r pennaeth yn uniongyrchol. Cymerwch olwg ar wefannau Childline a Kidscape.
Os bydd rhywbeth yn eich poeni neu'n codi ofn arnoch chi, ac nad ydych chi'n siŵr ai cam-drin ydyw, siaradwch â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo.
Mae cam-drin yn golygu naill ai niweidio rhywun neu beidio â sicrhau nad yw rhywun yn cael ei niweidio. Gall cam-drin neu esgeulustod ddigwydd o fewn teulu neu sefydliad, gan bobl sy'n gyfarwydd, neu'n llai aml gan ddieithryn.
Os ydych chi'n adnabod plentyn sydd mewn perygl o gael ei gam-drin neu'n cael ei gam-drin, mae'n bwysig iawn rhoi gwybod i'r Cyngor neu'r heddlu.
Os yw’r unigolyn mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu ar unwaith - 999.
Os na, ffoniwch Teulu Môn (Gwasanaethau Cymdeithasol)07770 642 817 cyn gynted â phosibl i rannu eich pryder.
-
Gwasanaethau Cymdeithasol: 01248 725 888
Rhif y tu allan i oriau: 01248 353551
Pa wybodaeth fydd angen i mi ei rhannu?
-
Beth yw natur eich pryder, a beth a arweiniodd ato?
-
Beth yw enw, dyddiad geni, cyfeiriad a manylion teulu'r dioddefwr? (os yw'n hysbys)
-
Pwy sydd wedi peri'r pryder hwn ichi, ac a oes unrhyw dystion eraill?
Beth sy'n digwydd nesaf?
-
Bydd eich galwad yn cael ei chofnodi a bydd gwybodaeth am yr unigolyn yn cael ei gwirio i weld a yw'n gyfarwydd.
-
Cesglir gwybodaeth gan asiantaethau eraill a allai fod â chysylltiadau â'r unigolyn.
-
Ar sail y wybodaeth hon, bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a ddylid ymchwilio i’ch pryder.
-
Gallai hyn arwain at gymryd camau llym i ddiogelu’r unigolyn rhag dioddef niwed pellach.
Os gwneir honiad diogelu / amddiffyn plant yn erbyn aelod o staff, mae'n rhaid i'r person sy'n derbyn yr honiad hwnnw drosglwyddo manylion y mater hwnnw ar unwaith i'r Pennaeth neu, yn ei absenoldeb, aelod o staff â chyfrifoldebau'r Pennaeth.
Yna bydd y Pennaeth yn ffonio 01248 725 888 (teulumon@anglesey.gov.wales) i drafod y mater.
Yn dilyn y drafodaeth gyda Gwasanaethau Cymdeithasol bydd angen ir Pennaeth gysylltu â’r Swyddog Arweiniol Dynodedig ar gyfer Diogelu mewn Addysg - Gerallt Roberts ar 01248 752 908 neu 07770 642 817 i drafod y camau nesaf yn unol â threfniadau lleol. Os yw honiad diogelu/amddiffyn plant posib yn cael ei wneud yn erbyn y Pennaeth, mae'n rhaid i'r aelod y staff sy'n derbyn yr honiad hwnnw gysylltu â Chadeirydd y Llywodraethwyr a hefyd y Swyddog Arweiniol Dynodedig ar gyfer Diogelu mewn Addysg ar 01248 752 908 neu 07770 642 817. Os yw Cadeirydd y Llywodraethwyr yn derbyn yr adroddiad, bydd rhaid iddyn nhw gysylltu â’r Swyddog Arweiniol Dynodedig ar gyfer Diogelu mewn Addysg ar 01248 752 908 neu 07770 642 817. Yn ogystal, bydd y Tîm Atgyfeiriadau Gwasanaethau Cymdeithasol lleol, Teulu Môn - 01248 725 888 yn gallu rhoi cyngor pan fydd y sefyllfaoedd hyn yn codi.
Gwasanaethau Cymdeithasol:
Ffôn: 01248 725 888
Rhif y tu allan i oriau: 01248 353551