Dosbarth Nodwydd
Hafan > Ysgol > Dosbarthiadau > Dosbarth Nodwydd
Croeso i ddosbarth Nodwydd!
Helo, Mrs Williams ydw i!
Dosbarth Blwyddyn 5 yw Dosbarth Nodwydd. Daw enw ein dosbarth o’r afon Nodwydd, ac mae symbol yr afon i’w weld ar fathodyn yr ysgol. Rydym yn griw gweithgar sy’n rhoi ein gorau glas bob amser.
Yn ogystal â bod yn athrawes frwdfrydig sydd bob amser yn barod i helpu a gwrando, rwy’n gwasanaethu fel Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad. Mae’n bwysig iawn i mi sicrhau bod pob plentyn yn gwneud cynnydd ac yn cyflawni eu gorau yn ôl eu gallu unigol.
Yn fy amser hamdden, rwy’n mwynhau darllen, garddio, a mynd â Cymro, fy nghi, am dro. Fel criw’r dosbarth, rwy’n anelu at wneud fy ngorau glas bob amser i helpu paratoi fy nisgyblion ar eu taith drwy ein hysgol a thu hwnt, drwy gydol eu bywydau.