Dosbarth Menai
Hafan > Ysgol > Dosbarthiadau > Dosbarth Menai
Croeso i ddosbarth Menai!
Helo, Miss Evans ydw i!
Rydw i’n addysgu dosbarth meithrin, derbyn, blwyddyn 1 a 2. Mae’r plant yn adnabod y dosbarth fel Dosbarth Menai. Rwy’n wrth fy modd yn dysgu plant ieuengaf yr ysgol; mae gweld y datblygiad a’r cynnydd yn sgiliau’r dysgwyr wrth iddynt symud drwy’r blynyddoedd cynnar yn rhoi boddhad mawr i mi.
Yn aml, mae themâu ein dosbarth wedi’u seilio ar lyfrau amrywiol. Mae’r dysgwyr yn mwynhau dysgu’r straeon a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n cyd-fynd â hwy. Yn ogystal â’r gwaith ffocws, mae gan y dosbarth nifer o ardaloedd dysgu lle mae’r dysgwyr yn gweithio’n annibynnol ar dasgau amrywiol. Rwy’n hoff iawn o dechnoleg, ac mae defnydd o dechnoleg i’w weld yn y dosbarth drwy annibyniaeth y dysgwyr wrth iddynt gofnodi eu gwaith ar apiau megis SeeSaw.
Tu allan i’r ysgol, rwy’n mwynhau canu mewn côr a mynd am dro mewn amrywiol lefydd, yn enwedig ar draethau Ynys Môn gyda fy nghi. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd edrych ar ôl ein hunain a’r pethau sy’n bwysig i ni. Un o fy mhrif amcanion fel athrawes yw sicrhau hapusrwydd y dysgwyr, gan ofalu am eu lles er mwyn creu awyrgylch dysgu lle mae pawb yn hapus ac yn barod i ddysgu.