Dosbarth Bryniau
Hafan > Ysgol > Dosbarthiadau > Dosbarth Bryniau
Croeso i ddosbarth Bryniau!
Helo, Mrs. Davies ydw i!
Rwyf yn athrawes sydd yn gwneud fy ngorau glas i greu amgylchedd ddysgu cefnogol ac ysbrydoledig i bob plentyn yn fy nosbarth.
Mae’r ystafell yn aml yn atseinio cân neu’n llefaru tablau yn ailadroddus gan mai cerddoriaeth a mathemateg ydy fy hoff bynciau. Fy nod yw helpu pob plentyn i ddatblygu hyder yn eu cryfderau unigryw tra’n ennill sgiliau a fydd yn eu helpu yn y dyfodol, y tu hwnt i Ysgol Pentraeth ac i'r dyfodol. Y peth pwysicaf i mi ydy annog pob plentyn i dyfu, ffynnu, a chredu yn eu potensial.
Yn ein dosbarth ni ym mlwyddyn 3 a 4, mae'r awyrgylch yn llawn chwilfrydedd a brwdfrydedd wrth ddysgu pethau newydd bob dydd. Mae pwyslais yn cael ei roi at ddyfalbarhad o fewn pob tasg a gweithio fel tim, fel ein bod yn creu cymuned hapus a chefnogol i bob plentyn ffynnu yn eu doniau unigryw eu hunain.